Adeste Fideles

Gwrando

Adolygiadau

Cliciwch i raddio

Gwybodaeth am Adeste Fideles "O Come All Ye Faithful"

Mae O! Deuwch Ffyddloniaid yn emyn Nadolig, neu garol, Cristnogol gan awdur anhysbys sy'n addasiad i'r Gymraeg o'r emyn Lladin, Adeste Fideles. Mae'n emyn rhif 463 yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001. Mae'r fersiwn Lladin gwreiddiol yn cael ei briodoli i nifer o wahanol awduron, gan gynnwys John Francis Wade (1711-1786), John Reading (1645-1692) a João IV (1640-1656), gyda'r llawysgrif gynharaf o'r emyn sy'n dwyn ei enw ef yn cael ei gadw yn llyfrgell Palas Dinesig Vila Viçosa. Mae llawysgrif gan Wade, sy'n dyddio i 1751, yng ngofal Coleg Stonyhurst, Swydd Gaerhirfryn. Gwaith Frederick Oakeley (1802-80), yn bennaf, yw'r cyfieithiad Saesneg adnabyddus, O come, all ye faithful. Mae'n debyg mae cyfieithiad o waith Oakeley yw'r fersiwn Gymraeg.
Mae'r testun uchod ar gael o dan drwydded y CC BY-SA 3.0. Mae'n defnyddio deunydd o erthygl Wicipedia "O! Deuwch Ffyddloniaid".

Trefniannau eraill