Finlandia

Dim llun ar gaelCiplun Cerddoriaeth

Gwrando

Byddwch y cyntaf i ychwanegu recordiad neu fideo.

Adolygiadau

Cliciwch i raddio

Gwybodaeth am Finlandia

Mae Ffinlandia, Op. 26, yn gerdd dôn gan y cyfansoddwr o'r Ffindir, Jean Sibelius. Cafodd ei gyfansoddi yn wreiddiol ym 1899 a'i diwygio ym 1900. Cafodd y darn ei chyfansoddi ar gyfer Dathliadau'r Wasg, 1899, protest cudd yn erbyn sensoriaeth gynyddol Ymerodraeth Rwsia. Ffinlandia oedd yr olaf o saith darn i'w perfformio fel cyfeiliant i dablo yn darlunio pennodau o hanes y Ffindir. Roedd y perfformiad cyntaf ar 2 Gorffennaf 1900 yn Helsinki gan Gymdeithas Ffilharmonig Helsinki dan arweiniad Robert Kajanus. Fel arfer bydd perfformiad yn cymryd rhwng 7½ a 9 munud.
Mae'r testun uchod ar gael o dan drwydded y CC BY-SA 3.0. Mae'n defnyddio deunydd o erthygl Wicipedia "Ffinlandia".

Prynu argraffiadau printiedig

Rydym ni wedi dewis rhai argraffiadau print a fydd efallai o ddefnydd.