Chwyddo

Anton Bruckner

  • Dyddiadau
  • 4 Med 1824 - 11 Hyd 1896
  • Gweithiau
  • 2
  • Cerddoriaeth
  • 2

Biwgraffiad

Cyfansoddwr Awstraidd oedd Josef Anton Bruckner (4 Medi 1824 - 11 Hydref 1896. Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf ei gyfnod.

Ganed ef ym mhentref Ansfelden, yr hynaf o unarddeg o blant; roedd ei dad, hefyd Anton Bruckner, yn ysgolfeistr. Roedd canu'r organ yn rhan o ddyletswyddau ei dad fel ysgolfeistr, a dysgodd Anton yr organ yn ieauanc. Bu farw ei dad yn 1837. Wedi hyfforddi fel athro, bu Bruckner yn athro cynorthwyol ym mhentref Windhaag, ond aeth i drafferth trwy dreulio mwy o amser yn cyfansoddi cerddioriaeth nag yn gwneud ei waith, a symudwyd ef i Kronstorf.

Treuliodd ddeng mlynedd fel athro yn ysgol Sankt Florian o 1845 i 1855, ac yn raddol datblygodd o fod yn athro i fod yn gerddor proffesiynol. Ymhlith ei weithiau pwysig cynnar mae'r Requiem (1848). Yn 1855 bu farw organydd eglwys gadeiriol Linz, a chafodd Bruckner ei swydd. Yn y swydd yma, daeth i adnabod Otto Kitzler, a gyflwynodd gerddoriaeth Richard Wagner, a gafodd ddylanwad mawr arno. Perfformiwyd ei symffoni gyntaf am y tro cyntaf yn 1868.

Yn 1868, symudodd i Fienna i fod yn Athro yn y Konservatorium yno. Bu ar daith i roi perfformiadau ar yr organ yn Nancy a Paris yn 1869 a Llundain yn 1871. Cyfansoddodd gyfres o simffoniau, a gafodd dderbyniad cymysg, gyda rhai beiriniaid yn elyniaethus iawn. Cafodd ei 7fed Simffoni yn 1884 well derbyniad, a daeth nifer o anrhydeddau i'w ran yn y blynyddoedd nesaf. Bu farw yn Fienna yn 1896.


Gweithiau cerddorol
Cerddorfaol
  • Ouvertüre g-Moll (WAB 98), 1863
  • Sinfonie f-Moll (WAB 99), 1863
  • 1. Sinfonie c-Moll (WAB 101), 1866 (Linzer Fassung), 1890/91 (Wiener Fassung)
  • Sinfonie B-Dur, 1869; nur Skizzen des 1. Satzes vorhanden
  • Sinfonie d-Moll (WAB 100), 1869 (sog. Nullte )
  • 2. Sinfonie c-Moll (WAB 102), 1872, 1877
  • 3. Sinfonie d-Moll (WAB 103), 1873, 1877, 1889
  • 4. Sinfonie Es-Dur (Die Romantische, WAB 104), 1874, 1878, 1880 (neues Finale), 1889
  • 5. Sinfonie B-Dur (WAB 105), 1878
  • 6. Sinfonie A-Dur (WAB 106), 1881
  • 7. Sinfonie E-Dur (WAB 107), 1883
  • 8. Sinfonie c-Moll (WAB 108), 1887, 1890
  • 9. Sinfonie d-Moll (anorffenedig)
Lleisiol

Crefyddol:
  • Messe C-Dur für Alt, zwei Hörner und Orgel (WAB 25), 1842
  • Requiem d-Moll (WAB 39), 1848/49
  • Missa solemnis B-Dur (WAB 29), 1854
  • Messe d-Moll (WAB 26), 1864
  • Messe e-Moll für achtstimmigen Chor und Bläser (WAB 27), 1866
  • Messe f-Moll (WAB 28), 1868
  • Psalm 114, 1852
  • Psalm 146, 1858
  • Psalm 150 (WAB 38), 1892
  • Te Deum (WAB 45), 1881, 1884
  • Magnificat (WAB 24), 1852
  • 4 Graduale (1869):
Christus factus est Locus iste Os justi meditabitur sapientiam Virga Jesse floruit
  • zahlreiche Motetten, darunter:
Ave Maria Ecce sacerdos magnus Tota pulchra es Maria Vexilla regis prodeunt
Arall:
  • Germanenzug für Männerchor und Bläser (WAB 70), 1864
  • Helgoland für Männerchor und Orchester (WAB 71), 1893
  • weitere (vorrangig Männer-) Chorstücke sowie einige Klavierlieder
Offerynnol
  • Streichquartett c-Moll (WAB 111), 1862
  • Rondo c-Moll für Streichquartett, 1862
  • Abendklänge für Violine und Klavier (WAB 110), 1866
  • Streichquintett F-Dur (WAB 112), 1879
  • Intermezzo d-Moll für Streichquintett (WAB 113), 1879

Mae'r testun uchod ar gael o dan drwydded y Creative Commons Attribution-ShareAlike License ( creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/ ). Mae'n defnyddio deunydd o erthygl Wicipedia "Anton Bruckner" ( cy.wikipedia.org/wiki/Anton_Bruckner ).

Enwau eraill

ar:أنطون بروكنر, arz:انتون بروكنر, bg:Антон Брукнер, el:Άντον Μπρούκνερ, ko:안톤 브루크너, he:אנטון ברוקנר, ka:ანტონ ბრუკნერი, la:Antonius Bruckner, lv:Antons Brukners, ja:アントン・ブルックナー, ru:Брукнер, Антон, sr:Антон Брукнер, ta:ஆன்டன் புரூக்னர், uk:Брукнер Антон, zh:安东·布鲁克纳

Holl gerddoriaeth

Neidio i: E S

You may also find sheet music by Bruckner on Sheet Music Plus.

E

S